Rhedwyr Ynys Echni

Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi y bydd Tîm Ynys Echni yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yr hydref hwn!

Bydd yr arian a godir drwy gwblhau’r Her Tîm ddydd Sul 6 Hydref yn mynd tuag at brosiectau amrywiol i helpu i ddiogelu bywyd gwyllt anhygoel a threftadaeth bwysig yr ynys. Mae’r rhain yn cynnwys cadwraeth natur hanfodol, cynnal a chadw adeiladau hanesyddol a hyfforddi gwirfoddolwyr.

Mae Cymdeithas Ynys Echni yn elusen gofrestredig sydd wedi ymrwymo i gefnogi’r ynys drwy ei thîm gwirfoddol ymroddedig.

I roi rhodd, ewch i’n tudalen JustGiving. Diolch!

Cwrdd â’n rhedwyr

Bydd Ellie Jones, Sarah Magor, Sarah Morgan, Simon Parker a Julie Ross yn ymgymryd â her Tîm Ynys Echni. Gwnaethon ni sgwrsio â nhw am eu profiadau rhedeg, yr hyn y mae’r ynys yn ei olygu iddyn nhw, y byrbrydau gorau, yr alawon mwyaf poblogaidd a mwy!:

BETH YW DY WAITH BOB DYDD?

Ellie: Cynorthwyydd Marchnata/Prentis Corfforaethol, Awdurdod Harbwr Caerdydd a Chyngor Caerdydd.

Sarah Magor: Rheolwr Cyfleuster, SMS Energy Services Caerdydd.

Sarah Morgan: Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned, Ynys Echni. Mae hynny’n golygu fy mod yn cael fy nhalu i siarad am Ynys Echni ag unrhyw un a fydd yn gwrando!

Simon: Warden Ynys Echni

Julie: Warden adar y glannau ar gyfer Gwarchodfa Natur Ynys Metgawdd, Natural England.

RHO FFAITH ANNISGWYL AMDANAT TI DY HUN I NI.

Ellie: Gwnes i awyrblymio a chwblhau naid bynji pan wnes i deithio i Awstralia a Seland Newydd.

Sarah Magor: Rwy’n gynlluniwr a threfnydd brwd o deithiau cerdded mynyddoedd ar gyfer grŵp cerdded Out of Towns yng Nghwmbrân.

Sarah Morgan: Yn ogystal â rhedeg, rwyf hefyd yn cystadlu mewn Muay Thai gyda champfa Celtic Pride Martial Arts yn Abertyleri.

Simon: Dwi wedi cerdded o Fecsico i Ganada.

Julie: Un tro, gwnes i arsylwi ar falwen gyda David Attenborough mewn lôn gefn yn Richmond.

PRYD A PHAM WNES DI DDECHRAU RHEDEG?

Ellie: Roeddwn i’n arfer rhedeg ychydig yn yr ysgol, ac rydw i wedi rhedeg yn achlysurol ers hynny. Yn bennaf i gadw’n heini ac oherwydd fy mod wrth fy modd yn yr awyr agored.

Sarah Magor: Rhedais lwybr arfordir Cymru yn 2018.

Sarah Morgan: Dechreuais redeg pellteroedd hir gyda fy nhad pan oeddwn yn fy arddegau. Yn fy arddegau, roeddwn i’n chwarae rygbi ac yn rhedeg i gadw’n heini ar gyfer hyfforddiant. Mae fy nhad wedi rhedeg ers blynyddoedd ac wedi chwarae rygbi am flynyddoedd hefyd. Roedd yn destun balchder pan ddechreuais i ragori ar fy nhad mewn hyfforddiant. Gwnes i roi’r gorau i redeg pan gefais niwmonia yn fy ail flwyddyn yn y brifysgol, ond dechreuais eto yn 2019 yn ystod cyfnod clo cyntaf COVID-19.

Simon: Yn yr Ysgol Gynradd – sylweddolais y gallwn aros yn y gwely am 10 munud ychwanegol pe bawn i’n rhedeg i’r ysgol ac mae hynny gyfystyr ag ennill yn fy marn i.

Julie: Pan oeddwn i’n blentyn, ymunais â chlwb athletau – rwy’n hoffi’r teimlad o ymarfer aerobig cyflym.

LLE WYT TI’N HOFFI MYND AR REDIADAU HYFFORDDI? 

Ellie: Dwi wrth fy modd yn rhedeg o gwmpas y Morglawdd a’r Marina ym Mae Caerdydd. Mae’n hyfryd wrth ymyl y dŵr. Cefais fy magu mewn tref fach yn y wlad – mae rhedeg yng nghefn gwlad yn anhygoel!

Sarah Magor: Dwi’n rhedeg drwy lonydd gwledig weithiau ar lwybr cylchol, ond fy hoff beth yw rhedeg i gyrchfan a dal y trên adref ar ôl rhediad hir.

Sarah Morgan: Dwi’n hoffi rhedeg pan fyddaf ar fy ngwyliau. Os gallaf redeg heibio i olygfeydd hardd a gorffen gyda nofio yn y môr, dyna fy rhediad delfrydol.

Simon: Mynyddoedd, coedwigoedd, neu fynyddoedd a choedwigoedd.

Julie: Unrhyw le ym myd natur.

AM BETH FYDDI DI’N MEDDWL PAN FYDDI DI’N RHEDEG?

Ellie: Os ydw i’n onest, ar y foment honno… faint mwy o filltiroedd? Pam ydw i mor anystwyth? Paid â chwympo! Pam mae hyn mor anodd? Pam oeddwn i’n meddwl y gallwn gwblhau hanner marathon? Gobeithio y bydd hyn yn gwella wrth i amser fynd yn ei flaen, ha ha! Ond dwi wrth fy modd yn bod allan ym myd natur.

Sarah Magor: Dwi’n meddwl am harddwch Cymru – pa mor lwcus ydw i o gael byw mor agos at y mynyddoedd a’r arfordiroedd bendigedig. Mae fy meddwl yn rhydd, mae fy nghorff yn gryf ac rwy’n teimlo’n llawn cymhelliant ac yn hapus.

Sarah Morgan: Weithiau mae rhedeg yn dda ar gyfer clirio fy meddwl neu ar gyfer ystyried problem. Rwy’n hoffi cael sgwrs ar rediadau, cofia di. Mae’n amser gwych i gael sesiwn glecs ddi-dor.

Simon: Rwy’n ceisio peidio â meddwl, dim ond mwynhau’r golygfeydd a’r ymlacio!

Julie: Dim llawer o gwbl, heblaw cadw ystum da i osgoi anaf.

AR BETH WYT TI’N HOFFI GWRANDO PAN FYDDI DI’N RHEDEG?

Ellie: Rhywbeth sy’n hwyl sy’n mynd i’m hysgogi!

Sarah Magor: Bywyd gwyllt

Sarah Morgan: Rwy’n mynd yn ôl ac ymlaen, weithiau mae’n well gen i wrando ar gerddoriaeth, dro arall podlediadau. Os ydw i ar lwybr tawel, dwi’n hoffi cyd-ganu â phethau… a dawnsio…

Simon: Ychydig o electro chill, NYM neu bodlediadau am bethau bydol/teithio.

Julie: Dim byd, fel arfer.

SUT WYT TI’N PARATOI AR GYFER RHEDIAD HIR?

Ellie: Dydw i ddim, efallai mai dyna’r broblem! Dwi’n rhedeg, heb wneud dim byd arall, ha ha!

Sarah Magor: Drwy ymestyn yn dda, cynllunio fy llwybr ac anelu at foreau’r penwythnos pan fydd gen i’r nerth. Rhedeg yn y boreau yw’r adeg gorau i mi.

Sarah Morgan: Rwy’n hoffi rhoi fy hoff restr chwarae neu bodlediad diddorol yn barod, yfed llawer o ddŵr a chynhesu drwy fynd am dro.

Simon: Gwneud rhywfaint o ioga, yfed ychydig o ddŵr, gwrando ar gerddoriaeth.

Julie: Rhedeg y pellter ac ioga.

SUT WYT TI’N GWOBRWYO DY HUN AR ÔL RHEDIAD HIR?

Ellie: Fel arfer rwy’n coginio pasta i mi fy hun – digon o garbs!

Sarah Magor: Gyda fy hoff goffi, ffrwythau a bwyd mewn lleoliad braf.

Sarah Morgan: Mae gen i draddodiad balch o fwyta nes i mi deimlo’n sâl ar ôl Hanner Marathon Caerdydd. Fy nghyflawniad mwyaf oedd byrgyrs, ac yna hufen iâ â blas cacennau cri.

Simon: Hoe …

Julie: Nofio neu fwyd da.

WYT TI WEDI RHEDEG HANNER MARATHON CAERDYDD O’R BLAEN?

Ellie: Naddo, erioed!

Sarah Morgan: Hwn fydd fy mhumed tro.

Simon: Naddo, rwy’n edrych ymlaen at weld y ddinas fawr!

Julie: Naddo.

BETH YW DY AWGRYMIADAU GORAU AR GYFER RHEDEG HANNER MARATHON?

Ellie: Does gen i ddim byd ar hyn o bryd gan mai dyma’r tro cyntaf i mi wneud, ond os oes gan unrhyw un rai, byddai hynny’n wych!

Sarah Morgan: 1) Peidiwch â’i wneud ar eich pen eich hun, mae’n ddiflas.

2) Gwnewch yn siŵr bod gennych lifft adref. Mae gyrru adref ar ôl hanner marathon yn ofnadwy.

3) Gwahoddwch eich anwyliaid i ddod i’ch cefnogi a dathlu wedyn.

4) Cadwch fwrdd oherwydd mae Caerdydd yn BRYSUR ar ddiwrnodau Hanner Marathon.

Simon: Cerddwch i bobman yn lle gyrru, buan iawn y gwnewch chi gronni milltiroedd a pheidiwch â mynd i boeni am y peth.

Julie: Hyfforddwch a sicrhewch eich bod yn cael hwyl – peidiwch â phoeni am gyflymder neu amseroedd, byddwch yn garedig i chi’ch hun.

BETH YW DY GYFLAWNIAD RHEDEG GORAU?

Ellie: Hwn, gobeithio, os byddaf yn cyrraedd y llinell derfyn!

Sarah Magor: Cwblhau llwybr arfordir Cymru.

Sarah Morgan: Rhedeg 10K Casnewydd mewn 56 munud. Roedd fy nhad yn aros amdanaf ar y llinell derfyn ac roedd gweld ei wyneb pan orffennais i mewn llai nag awr, a rhagori ar fy nharged, yn meddwl y byd i mi.

Simon: Dod yn ail mewn uwchfarathon 24 awr.

Julie: Gwibio’r 100 metr mewn 13.9 eiliad pan yn blentyn, gan guro pawb arall.

RWYT TI’N RHEDEG HANNER MARATHON CAERDYDD AR GYFER ELUSEN CYMDEITHAS YNYS ECHNI – BETH MAE’R YNYS YN EI OLYGU I TI?

Ellie: Er mai dim ond ers ychydig fisoedd rydw i wedi bod yn gweithio yma, mae Ynys Echni wedi dod yn rhan fawr o fy swydd, ac rwy’n teimlo mor lwcus fy mod i’n cael ei hyrwyddo. Mae’n ynys mor brydferth ac yn rhywbeth rydyn ni mor ffodus o’i gael mor agos at Gaerdydd.

Sarah Magor: Mae rhedeg ar gyfer Cymdeithas Ynys Echni yn meddwl cymaint i mi. Mae’n codi ymwybyddiaeth o harddwch a hanes ein treftadaeth Gymreig a gwarchodfa natur sy’n haeddu mwy ac na ddylid ei anghofio. Rwy’n falch o fod yn rhan o’r digwyddiad hwn ac mae’n agos iawn at fy nghalon.

Sarah Morgan: Rydw i wedi gweithio ar y Prosiect Ynys Echni am lai na blwyddyn ac mae’r ynys eisoes yn un o fy hoff lefydd yn y byd i gyd. Gallwch ofyn i unrhyw un sydd wedi bod ar Ynys Echni, mae’n brofiad arbennig. Bydd y ffrindiau rydych chi’n eu gwneud, y profiadau rydych chi’n eu cael a’r pethau rydych chi’n eu dysgu yn aros gyda chi am byth.

Simon: Mae’n lle i ddod o hyd i lonyddwch mewn byd sy’n fwyfwy stwrllyd.

Julie: Mae’r ynys yn meddwl cymaint i mi fel na allaf ei gyfleu mewn ychydig eiriau! Treuliais flwyddyn yn gwirfoddoli ar yr ynys a daeth yn gartref i mi. Syrthiais mewn cariad â’r ffordd o fyw, y natur, y bywyd gwyllt, y môr a’r bobl. Roedd yn fy atgoffa o sut yr hoffwn fyw ac fe roddodd lonyddwch a phersbectif i mi. Ni fyddaf byth yn ei hanghofio cyhyd ag y byddaf yn byw ac rwyf wedi gwneud ffrindiau gwych.

PA WAHANIAETH FYDD YR ARIAN A GODIR YN EI WNEUD I’R YNYS?

Ellie: Bydd yn helpu i gynnal a chadw’r ynys fel y gall mwy o bobl weld yr harddwch sydd ar Ynys Echni.

Sarah Magor: Hoffwn weld yr adeiladau yn cael eu cadw cyn iddynt gael eu colli.

Sarah Morgan: Gyda chefnogaeth rhoddion, gallwn barhau i wneud popeth a wnawn ar Ynys Echni i ddiogelu hanes anhygoel a bywyd gwyllt yr ynys. Ynys fechan yw Ynys Echni (hanner milltir o led a hyd!), ond mae’n llawn treftadaeth ac yn rhan bwysig o Gymru, ein diwylliant, a’n stori. Rydym mor freintiedig ar Ynys Echni o gael bywyd gwyllt gwych hefyd, fel gwylanod cefnddu lleiaf, gwylanod y penwaig a gwylanod cefnddu mwyaf sydd ar y rhestr goch neu oren. Mae rhoddion hefyd yn ein helpu i rannu ein hynys gyda chymunedau yng Nghaerdydd.

Simon: Bydd pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth enfawr; mae’r ynys mewn angen dybryd am fuddsoddiad a bydd yn ein helpu ni i’w gwarchod er mwyn i bobl ei mwynhau.

Julie: Gwell offer, cyfarpar, tractor ac yn y blaen, ac i atgyweirio pethau er mwyn ei chynnal. Yn gyffredinol, bydd yr ynys a’i thîm ymroddedig o wirfoddolwyr a warden yn elwa os bydd mwy o arian yn cael ei roi. Hefyd, mae angen cymorth ariannol ar y bywyd gwyllt, felly y gall elwa o’r ynys yn ffynnu.

BETH YW’R PETH GORAU AM REDEG FEL RHAN O DÎM?

Ellie: Mae’n wych cael cwmni a rhywfaint o gefnogaeth pan fyddwch chi’n rhedeg.

Sarah Magor: I rannu profiad ac atgofion gwych, ac ysgogi eich gilydd.

Sarah Morgan: Weithiau mae’n anodd dod o hyd i’r cymhelliant i hyfforddi, ac mae cefnogaeth eich cyd-chwaraewyr, yn eich cadw i fynd, yn bopeth. Un o fy hoff bethau yw pan fyddwch yn gweld eich cyd-chwaraewyr yn gwella wrth eich ymyl, rydych chi ar daith gyda’ch gilydd i fod y gorau y gallwch chi fod.

Simon: Y potensial o allu cario mwy o fyrbrydau… cefnogaeth ar y cyd o’n i’n meddwl.

Julie: Chwerthin da, annog ei gilydd a chael HWYL!

PWY FYDDAI DY GYFAILL RHEDEG DELFRYDOL?

Ellie: Rwy’n rhedeg ar fy mhen fy hun fel arfer, gan fy modd i’n cael trafferth siarad pan dwi’n rhedeg! Ond byddai unrhyw un sy’n gefnogol yn wych!

Sarah Magor: Dwi wrth fy modd yn rhedeg gyda phawb – o bobl brofiadol i ddechreuwyr – mae bob math o redeg yn hwyl pan fod gennych gyfaill.

Sarah Morgan: Mae fy nghi, Hildi, yn gyfaill rhedeg gwych. Mae hi’n hoffi mynd ar ôl defaid, gwiwerod, cathod, beiciau ac unrhyw beth arall sy’n symud yn anffodus… Hildi, mae’n debyg, ar lwybr tawel heb ddefaid.

Simon: Dwi’n rhedeg ar fy mhen fy hun, ond efallai Nicholas Cage neu Keanu Reeves.

Julie: Rhywun sy’n amyneddgar, nad yw’n rhy ddifrifol na chystadleuol.

AC UN PETH ARALL…

Ellie: Amdani Dîm Ynys Echni!

Sarah Magor: Rwy’n dymuno’r gorau i bawb ac yn edrych ymlaen at gwrdd â chi.

Sarah Morgan: Shwmae bawb!

Simon: Dwi’n rhedeg bob tro y bydda i am wella fy hwyliau, mae’n helpu i glirio fy meddwl ac yn gwneud i mi deimlo’n dda!

Julie: Bant â ni!

 




August 12, 2024 2:39 pm.

Rhannu:

Mwy