Ynys Echni

Mae hon bum milltir oddi ar yr arfordir, yn hytrach nag yng Nghaerdydd! Mae Ynys Echni drawiadol yn fyd arall gyda chyfoeth o hanes a bywyd gwyllt. Cewch eich rhyfeddu wrth weld cymaint sydd yno i’w ddarganfod. Ers yr Oesoedd Tywyll, roedd yr ynys yn lloches ar gyfer mynaich ac yn noddfa i’r Llychlynwyr, yr Eingl-Sacsoniaid, cloddwyr arian a smyglwyr. Efallai mai’r peth enwocaf am yr ynys yw mai yno y derbyniwyd y neges radio gyntaf dros ddŵr, a hynny gan Guglielmo Marconi ym 1897.

Wrth fynd ar daith dydd gyda’r cwch, cewch dair neu chwe awr ar yr ynys. Bydd teithiau tywys am ddim ar rai dyddiadau. Gallwch ymweld â’r siop cofroddion a mwynhau llymed yn nhafarn fwyaf deheuol Cymru, y Gull and Leek. Gellir trefnu aros dros nos.




October 25, 2021 3:00 pm.

Rhannu:

Mwy