Stopiwch yn y caffi ar y Morglawdd sy’n cael ei redeg gan yr RSPB a mwynhewch goffi mewn lleoliad ysblennydd gyda golygfeydd godidog ar draws y Bae a Môr Hafren.
Wedi’i greu o gynwysyddion llongau dur oren llachar, mae Hafren yn prysur ddod yn un o gaffis mwyaf poblogaidd Bae Caerdydd. Yn frwd dros fwyd lleol, moesegol sy’n cynnig gwerth am arian, mae’r caffi yn cynnig ystod o seigiau poeth blasus, byrbrydau, cacennau cartref ac ati – a’r cwbl wedi’u dylunio i adfywio ymwelwyr y Morglawdd.
Mae’r caffi ymlaciedig hwn sy’n croesawu teuluoedd hefyd yn lle da i ddysgu am waith yr RSPB a’r cynefinoedd amrywiol o amgylch Bae Caerdydd.
February 3, 2021 3:02 pm.
Rhannu: