Ymweld
Mae tripiau ar gael trwy gydol y flwyddyn i ymweld ag Ynys Echni, o dripiau dydd i arosiadau hirach, gwyliau a gweithdai.
Mae tripiau cwch wedi’u trefnu o flaen llaw i’r ynys sy’n mynd o Gaerdydd sawl gwaith y mis. Mae’r tripiau yn caniatáu hyd at 3 awr ar yr ynys yn dibynnu ar amseroedd y llanw.
Fel arall gallwch deilwra eich ymweliad eich hun os ydych yn mynd mewn grŵp mawr neu os hoffech aros am ddiwrnod hirach neu dros nos.

Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser

Ewch i celf.ynysechni.com lle cewch eich tywys ar fordaith synhwyraidd o amgylch amgylchfyd ynys elfennol ddiarffordd trwy sain ymgollol ddeuseiniol, ffilm, barddoniaeth a map 3D rhyngweithiol.
Mae celf.ynysechni.com yn ddehongliad artist o Ynys Echni, a gomisiynwyd gan Gyngor Caerdydd fel rhan o’r prosiect ‘Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser’. Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac mae’n rhedeg o 2018 i 2025.
Ymweliadau dydd
Mae ymweliad dydd byr ag Ynys Echni yn cynnig hyd at dair awr ar yr Ynys a chyfle unigryw i weld cadwraeth, bywyd gwyllt ac adeiladau hanesyddol Ynys Echni.
Gellir trefnu i hwylio i’r Ynys am ddiwrnod gyda’r gweithredwyr canlynol
Mae ffi glanio o £5.00 i oedolion a £2.50 i blant yn daladwy i’r warden wrth gyrraedd yr ynys.
Cysylltwch â’r gweithredwyr cychod i holi am brisiau teithiau cwch.
Arosiadau dros nos / ymweliadau preswyl
- Mae llety ystafelloedd cysgu ar gael yn ffermdy ein canolfan faes y gall hyd at 24 person gysgu ynddo (ystafelloedd gyda 2, 10 a 12 gwely).
- Cewch wersylla ym nghaeau’r tŷ fferm pan fo’r llety ystafelloedd cysgu’n llawn (ni ddarperir pebyll).
- Mae Fog Horn Cottage, sy’n adeilad rhestredig gradd II, wedi’i drawsnewid yn fwthyn hunan-arlwyo ac mae ynddo dair ystafell wely fodern a dwy ystafell gawod. Mae gan y bwthyn cartrefol ei ardd ei hun gyda BBQ cerrig a golygfeydd ysbrydoledig. Wedi’i ddodrefnu mewn partneriaeth â John Lewis Caerdydd, dyma’r lle delfrydol i ddianc rhag bywyd bob dydd.
- Darganfyddwch fwy am ein gwyliau a gweithdai.
The Flat Holm Booking Office,
Cardiff Harbour Authority,
Queen Alexandra House,
Cargo Road,
Cardiff Bay
CF10 4LY
Tel: 029 2087 7900
Ymweliadau Preswyl
Llety: Oedolyn y noson – £20.00/ Plentyn y noson – £16.00
Ffi Wersylla: Oedolyn y noson – £10.00/Plentyn y noson – £8.00
Bwthyn:
Cyn y Pasg ac o 1 Medi
Yn seiliedig ar hyd at 4 o bobl y noson – £100
Hyd at 2 o bobl yn ychwanegol y noson – £25 y person
Hanner tymor y Pasg tan 31 Awst – Penwythnosau a Gwyliau Banc
Yn seiliedig ar hyd at 4 o bobl y noson – £200
Hyd at 2 o bobl yn ychwanegol y noson – £50 y person
Hanner tymor y Pasg tan 31 Awst – Canol Wythnos
Yn seiliedig ar hyd at 4 o bobl y noson – £150
Hyd at 2 o bobl yn ychwanegol y noson – £40 y person