Ynys Echni

Gwirfoddoli

Mae tîm Ynys Echni yn rheoli’r Ynys fel Gwarchodfa Natur Leol a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’n cynnwys staff swyddfa a Warden sydd wedi’i leoli ar yr ynys, ac fe’i cefnogir gan hyd at chwe Warden dan Hyfforddiant gwirfoddol preswyl ar unrhyw un adeg.

Mae angen ymrwymiad o chwe mis, ac nid oes angen profiad.  Rhwng mis Mawrth a mis Hydref, mae’r Ynys ar agor i ymwelwyr ac mae staff yno bob amser, ac eithrio am wythnos i bythefnos bob deufis pan mae’r holl staff yn treulio amser oddi ar yr ynys. Disgwylir i unigolion fod ar gael pan fydd yr Ynys ar agor.

Os oes gennych ddiddordeb mewn lleoliad byrrach, cysylltwch â’r swyddfa ar y tir mawr gan ein bod hefyd yn cynnig profiad gwaith – e.e. i fyfyrwyr prifysgol yn ystod gwyliau’r Pasg neu’r haf.

Diddordeb mewn gwirfoddoli?

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, darllenwch y wybodaeth isod ac yna anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at: prosiectynysechni@caerdydd.gov.uk

Er na allwn dalu ein Wardeniaid dan Hyfforddiant preswyl:

Yn ystod y tymor ymwelwyr, darperir llety hunanarlwyo sylfaenol mewn adeilad o’r Ail Ryfel Byd o’r enw ‘Driftwood’ gyda phum ystafell wely, toiled a rennir, cawod, ardal paratoi bwyd ac ardal fwyta fach.

Y tu allan i’r tymor ymwelwyr, darperir llety naill ai mewn ystafelloedd gwely a rennir yn y ffermdy gyda chyfleusterau toiled/cawod/cegin/bwyta a rennir, neu Gabanau sylfaenol unigol gyda gwelyau sengl a thrydan solar, wedi’u lleoli ym mhadog y ffermdy, gyda defnydd o’r cyfleusterau a rennir yn y ffermdy.

Rhaid i unigolion fod yn barod i rannu ystafelloedd os oes angen trwy gydol y flwyddyn.

Darperir bwyd i alluogi hyfforddeion i baratoi tri phryd y dydd, ynghyd â chyfraniad costau teithio o hyd at £50 y daith i’w lleoliad cartref (uchafswm o dair taith mewn chwe mis).

Mae hyfforddeion hefyd yn derbyn:

  • Hyfforddiant allanol (cymorth cyntaf, a thorrwr prysgwydd a thrimiwr Lantra).
  • Hyfforddiant yn y swydd (peiriannau, tywys teithiau ac addysgol).
  • Profiad amhrisiadwy mewn ystod eang o dasgau, gyda chyfradd lwyddiant ragorol o wirfoddolwyr yn ennill cyflogaeth â thâl.

Maent yn ymwneud â phob agwedd ar redeg yr Ynys o ddydd i ddydd, gan weithio wythnos 5 diwrnod gyda dau ddiwrnod i ffwrdd ar yr ynys, gan gynnwys:

Monitro bywyd gwyllt – casglu data a chynnal ein rhaglenni monitro ar wyfynod, gloÿnnod byw, hwyaid yr eithin a nadroedd defaid, arolwg adar y gwlyptir, cofnod adar dyddiol, a chyfrif gwylanod (mae rhai yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn).

Gwaith gwarchodfa a rheoli cynefinoedd ymarferol – coedlannu ysgaw, rheoli glaswelltir a llwybrau, rheoli llystyfiant goresgynnol, a chynnal ffensys, gatiau, meinciau a gwaith coed arall.

Gwaith ymwelwyr a chymunedol – arwain partïon gwaith gwirfoddol, rhedeg teithiau tywys i ymwelwyr, paratoi a gweini yn y dafarn a’r siop, a chroesawu ymwelwyr preswyl, gan gynnwys glanhau a pharatoi llety.

Gwaith treftadaeth – gwarchod adeiladau treftadaeth trwy dasgau DIY cyffredinol, e.e. glanhau, peintio a chynnal a chadw.

Gwaith gweithredol – cynnal a chadw’r Ynys, e.e. casglu sbwriel, rheoli gwastraff, glanhau adeiladau gweithredol a llety, cynorthwyo gyda gwiriadau/gweithdrefnau system iechyd a diogelwch, a dyletswyddau dyddiol.

Peiriannau – cynnal a chadw offer, gyrru tractorau a threlars a chyflawni gwiriadau sylfaenol arnynt, defnyddio peiriannau torri gwair a thorri prysgwydd a chyflawni gwaith cynnal a chadw sylfaenol arnynt, a chynnal gwiriadau ar eneraduron.

• Gwybodaeth am y gwyddorau amgylcheddol/naturiol neu reoli cefn gwlad.
• Brwdfrydedd.
• Hyblygrwydd.
• Sgiliau cyfathrebu.
• Ymrwymiad.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa Ynys Echni:

Ffôn: 029 2087 7900

E-bost: prosiectynysechni@caerdydd.gov.uk

Cwrdd â’r Tîm – Simon

Dysgwch am brofiadau wardeniaid preswyl dan hyfforddiant blaenorol.

Cymdeithas Ynys Echni

Oes gennych chi ychydig oriau’n rhydd bob wythnos, mis neu flwyddyn? Oes gennych chi sgiliau DIY neu arddio i’w cynnig? Hoffech chi gael eich hyfforddi i fod yn dywysydd, bod ar bwyllgor neu helpu i godi arian? Beth bynnag sydd gennych i’w gynnig, hoffem glywed gennych.

Sefydlwyd Cymdeithas Ynys Echni i hyrwyddo a chynorthwyo Prosiect Ynys Echni. Mae aelodau’r gymdeithas yn ffurfio gweithgorau, yn gweithredu fel tywyswyr ar yr ynys, yn codi arian ac yn helpu gyda thasgau cysylltiedig, a hefyd yn cefnogi digwyddiadau cymdeithasol ar y tir mawr.

 

Aelodaeth o Gymdeithas Ynys Echni

Bob blwyddyn bydd aelodau’r gymdeithas yn derbyn manylion digwyddiadau sydd i ddod ac mae ein cylchlythyr blynyddol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am weithgareddau’r gymdeithas. Cost tanysgrifiad blynyddol i fod yn aelod o Gymdeithas Ynys Echni yw £18.

I gael rhagor o fanylion am y Gymdeithas a sut gallwch chi wirfoddoli ar Ynys Echni, cysylltwch â’r Ysgrifennydd yn flatholm.society@gmail.com

Newyddion: Mae gan Gymdeithas Ynys Echni wefan: www.flatholmsociety.org.uk/

 

Mae Cymdeithas Ynys Echni yn elusen gofrestredig (Rhif Cofrestru 1000899)

Gweld hefyd