{"id":18160,"date":"2024-08-12T14:39:33","date_gmt":"2024-08-12T14:39:33","guid":{"rendered":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/?p=18160"},"modified":"2024-08-12T14:47:40","modified_gmt":"2024-08-12T14:47:40","slug":"rhedwyr-ynys-echni","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/","title":{"rendered":"Rhedwyr Ynys Echni"},"content":{"rendered":"<p>Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi y bydd T\u00eem Ynys Echni yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yr hydref hwn!<\/p>\n<p>Bydd yr arian a godir drwy gwblhau&#8217;r Her T\u00eem ddydd Sul 6 Hydref yn mynd tuag at brosiectau amrywiol i helpu i ddiogelu bywyd gwyllt anhygoel a threftadaeth bwysig yr ynys. Mae&#8217;r rhain yn cynnwys cadwraeth natur hanfodol, cynnal a chadw adeiladau hanesyddol a hyfforddi gwirfoddolwyr.<\/p>\n<p>Mae Cymdeithas Ynys Echni yn elusen gofrestredig sydd wedi ymrwymo i gefnogi&#8217;r ynys drwy ei th\u00eem gwirfoddol ymroddedig.<\/p>\n<p>I roi rhodd, ewch i&#8217;n tudalen\u00a0<a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/campaign\/flatholmisland\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">JustGiving<\/a>. Diolch!<\/p>\n<p><strong>Cwrdd \u00e2&#8217;n rhedwyr <\/strong><\/p>\n<p>Bydd Ellie Jones, Sarah Magor, Sarah Morgan, Simon Parker a Julie Ross yn ymgymryd \u00e2 her T\u00eem Ynys Echni. Gwnaethon ni sgwrsio \u00e2 nhw am eu profiadau rhedeg, yr hyn y mae&#8217;r ynys yn ei olygu iddyn nhw, y byrbrydau gorau, yr alawon mwyaf poblogaidd a mwy!:<\/p>\n<p><strong>BETH YW DY WAITH BOB DYDD? <\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Cynorthwyydd Marchnata\/Prentis Corfforaethol, Awdurdod Harbwr Caerdydd a Chyngor Caerdydd.<\/p>\n<p>Sarah Magor: Rheolwr Cyfleuster, SMS Energy Services Caerdydd.<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Swyddog Ymgysylltu \u00e2&#8217;r Gymuned, Ynys Echni. Mae hynny&#8217;n golygu fy mod yn cael fy nhalu i siarad am Ynys Echni ag unrhyw un a fydd yn gwrando!<\/p>\n<p>Simon: Warden Ynys Echni<\/p>\n<p>Julie: Warden adar y glannau ar gyfer Gwarchodfa Natur Ynys Metgawdd, Natural England.<\/p>\n<p><strong>RHO FFAITH ANNISGWYL AMDANAT TI DY HUN I NI. <\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Gwnes i awyrblymio a chwblhau naid bynji pan wnes i deithio i Awstralia a Seland Newydd.<\/p>\n<p>Sarah Magor: Rwy&#8217;n gynlluniwr a threfnydd brwd o deithiau cerdded mynyddoedd ar gyfer gr\u0175p cerdded Out of Towns yng Nghwmbr\u00e2n.<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Yn ogystal \u00e2 rhedeg, rwyf hefyd yn cystadlu mewn Muay Thai gyda champfa Celtic Pride Martial Arts yn Abertyleri.<\/p>\n<p>Simon: Dwi wedi cerdded o Fecsico i Ganada.<\/p>\n<p>Julie: Un tro, gwnes i arsylwi ar falwen gyda David Attenborough mewn l\u00f4n gefn yn Richmond.<\/p>\n<p><strong>PRYD A PHAM WNES DI DDECHRAU RHEDEG? <\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Roeddwn i&#8217;n arfer rhedeg ychydig yn yr ysgol, ac rydw i wedi rhedeg yn achlysurol ers hynny. Yn bennaf i gadw&#8217;n heini ac oherwydd fy mod wrth fy modd yn yr awyr agored.<\/p>\n<p>Sarah Magor: Rhedais lwybr arfordir Cymru yn 2018.<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Dechreuais redeg pellteroedd hir gyda fy nhad pan oeddwn yn fy arddegau. Yn fy arddegau, roeddwn i&#8217;n chwarae rygbi ac yn rhedeg i gadw&#8217;n heini ar gyfer hyfforddiant. Mae fy nhad wedi rhedeg ers blynyddoedd ac wedi chwarae rygbi am flynyddoedd hefyd. Roedd yn destun balchder pan ddechreuais i ragori ar fy nhad mewn hyfforddiant. Gwnes i roi&#8217;r gorau i redeg pan gefais niwmonia yn fy ail flwyddyn yn y brifysgol, ond dechreuais eto yn 2019 yn ystod cyfnod clo cyntaf COVID-19.<\/p>\n<p>Simon: Yn yr Ysgol Gynradd &#8211; sylweddolais y gallwn aros yn y gwely am 10 munud ychwanegol pe bawn i&#8217;n rhedeg i&#8217;r ysgol ac mae hynny gyfystyr ag ennill yn fy marn i.<\/p>\n<p>Julie: Pan oeddwn i&#8217;n blentyn, ymunais \u00e2 chlwb athletau &#8211; rwy&#8217;n hoffi&#8217;r teimlad o ymarfer aerobig cyflym.<\/p>\n<p><strong>LLE WYT TI&#8217;N HOFFI MYND AR REDIADAU HYFFORDDI?\u00a0 <\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Dwi wrth fy modd yn rhedeg o gwmpas y Morglawdd a&#8217;r Marina ym Mae Caerdydd. Mae&#8217;n hyfryd wrth ymyl y d\u0175r. Cefais fy magu mewn tref fach yn y wlad &#8211; mae rhedeg yng nghefn gwlad yn anhygoel!<\/p>\n<p>Sarah Magor: Dwi&#8217;n rhedeg drwy lonydd gwledig weithiau ar lwybr cylchol, ond fy hoff beth yw rhedeg i gyrchfan a dal y tr\u00ean adref ar \u00f4l rhediad hir.<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Dwi&#8217;n hoffi rhedeg pan fyddaf ar fy ngwyliau. Os gallaf redeg heibio i olygfeydd hardd a gorffen gyda nofio yn y m\u00f4r, dyna fy rhediad delfrydol.<\/p>\n<p>Simon: Mynyddoedd, coedwigoedd, neu fynyddoedd a choedwigoedd.<\/p>\n<p>Julie: Unrhyw le ym myd natur.<\/p>\n<p><strong>AM BETH FYDDI DI&#8217;N MEDDWL PAN FYDDI DI&#8217;N RHEDEG?<\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Os ydw i&#8217;n onest, ar y foment honno&#8230; faint mwy o filltiroedd? Pam ydw i mor anystwyth? Paid \u00e2 chwympo! Pam mae hyn mor anodd? Pam oeddwn i&#8217;n meddwl y gallwn gwblhau hanner marathon? Gobeithio y bydd hyn yn gwella wrth i amser fynd yn ei flaen, ha ha! Ond dwi wrth fy modd yn bod allan ym myd natur.<\/p>\n<p>Sarah Magor: Dwi&#8217;n meddwl am harddwch Cymru &#8211; pa mor lwcus ydw i o gael byw mor agos at y mynyddoedd a&#8217;r arfordiroedd bendigedig. Mae fy meddwl yn rhydd, mae fy nghorff yn gryf ac rwy&#8217;n teimlo&#8217;n llawn cymhelliant ac yn hapus.<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Weithiau mae rhedeg yn dda ar gyfer clirio fy meddwl neu ar gyfer ystyried problem. Rwy&#8217;n hoffi cael sgwrs ar rediadau, cofia di. Mae&#8217;n amser gwych i gael sesiwn glecs ddi-dor.<\/p>\n<p>Simon: Rwy&#8217;n ceisio peidio \u00e2 meddwl, dim ond mwynhau&#8217;r golygfeydd a&#8217;r ymlacio!<\/p>\n<p>Julie: Dim llawer o gwbl, heblaw cadw ystum da i osgoi anaf.<\/p>\n<p><strong>AR BETH WYT TI&#8217;N HOFFI GWRANDO PAN FYDDI DI&#8217;N RHEDEG?<\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Rhywbeth sy\u2019n hwyl sy&#8217;n mynd i&#8217;m hysgogi!<\/p>\n<p>Sarah Magor: Bywyd gwyllt<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Rwy&#8217;n mynd yn \u00f4l ac ymlaen, weithiau mae\u2019n well gen i wrando ar gerddoriaeth, dro arall podlediadau. Os ydw i ar lwybr tawel, dwi&#8217;n hoffi cyd-ganu \u00e2 phethau&#8230; a dawnsio&#8230;<\/p>\n<p>Simon: Ychydig o electro chill, NYM neu bodlediadau am bethau bydol\/teithio.<\/p>\n<p>Julie: Dim byd, fel arfer.<\/p>\n<p><strong>SUT WYT TI&#8217;N PARATOI AR GYFER RHEDIAD HIR?<\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Dydw i ddim, efallai mai dyna&#8217;r broblem! Dwi\u2019n rhedeg, heb wneud dim byd arall, ha ha!<\/p>\n<p>Sarah Magor: Drwy ymestyn yn dda, cynllunio fy llwybr ac anelu at foreau\u2019r penwythnos pan fydd gen i\u2019r nerth. Rhedeg yn y boreau yw\u2019r adeg gorau i mi.<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Rwy&#8217;n hoffi rhoi fy hoff restr chwarae neu bodlediad diddorol yn barod, yfed llawer o dd\u0175r a chynhesu drwy fynd am dro.<\/p>\n<p>Simon: Gwneud rhywfaint o ioga, yfed ychydig o dd\u0175r, gwrando ar gerddoriaeth.<\/p>\n<p>Julie: Rhedeg y pellter ac ioga.<\/p>\n<p><strong>SUT WYT TI&#8217;N GWOBRWYO DY HUN AR \u00d4L RHEDIAD HIR?<\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Fel arfer rwy\u2019n coginio pasta i mi fy hun \u2013 digon o garbs!<\/p>\n<p>Sarah Magor: Gyda fy hoff goffi, ffrwythau a bwyd mewn lleoliad braf.<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Mae gen i draddodiad balch o fwyta nes i mi deimlo&#8217;n s\u00e2l ar \u00f4l Hanner Marathon Caerdydd. Fy nghyflawniad mwyaf oedd byrgyrs, ac yna hufen i\u00e2 \u00e2 blas cacennau cri.<\/p>\n<p>Simon: Hoe &#8230;<\/p>\n<p>Julie: Nofio neu fwyd da.<\/p>\n<p><strong>WYT TI WEDI RHEDEG HANNER MARATHON CAERDYDD O&#8217;R BLAEN? <\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Naddo, erioed!<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Hwn fydd fy mhumed tro.<\/p>\n<p>Simon: Naddo, rwy\u2019n edrych ymlaen at weld y ddinas fawr!<\/p>\n<p>Julie: Naddo.<\/p>\n<p><strong>BETH YW DY AWGRYMIADAU GORAU AR GYFER RHEDEG HANNER MARATHON? <\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Does gen i ddim byd ar hyn o bryd gan mai dyma&#8217;r tro cyntaf i mi wneud, ond os oes gan unrhyw un rai, byddai hynny&#8217;n wych!<\/p>\n<p>Sarah Morgan: 1) Peidiwch \u00e2\u2019i wneud ar eich pen eich hun, mae&#8217;n ddiflas.<\/p>\n<p>2) Gwnewch yn si\u0175r bod gennych lifft adref. Mae gyrru adref ar \u00f4l hanner marathon yn ofnadwy.<\/p>\n<p>3) Gwahoddwch eich anwyliaid i ddod i&#8217;ch cefnogi a dathlu wedyn.<\/p>\n<p>4) Cadwch fwrdd oherwydd mae Caerdydd yn BRYSUR ar ddiwrnodau Hanner Marathon.<\/p>\n<p>Simon: Cerddwch i bobman yn lle gyrru, buan iawn y gwnewch chi gronni milltiroedd a pheidiwch \u00e2 mynd i boeni am y peth.<\/p>\n<p>Julie: Hyfforddwch a sicrhewch eich bod yn cael hwyl \u2013 peidiwch \u00e2 phoeni am gyflymder neu amseroedd, byddwch yn garedig i chi&#8217;ch hun.<\/p>\n<p><strong>BETH YW DY GYFLAWNIAD RHEDEG GORAU?<\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Hwn, gobeithio, os byddaf yn cyrraedd y llinell derfyn!<\/p>\n<p>Sarah Magor: Cwblhau llwybr arfordir Cymru.<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Rhedeg 10K Casnewydd mewn 56 munud. Roedd fy nhad yn aros amdanaf ar y llinell derfyn ac roedd gweld ei wyneb pan orffennais i mewn llai nag awr, a rhagori ar fy nharged, yn meddwl y byd i mi.<\/p>\n<p>Simon: Dod yn ail mewn uwchfarathon 24 awr.<\/p>\n<p>Julie: Gwibio\u2019r 100 metr mewn 13.9 eiliad pan yn blentyn, gan guro pawb arall.<\/p>\n<p><strong>RWYT TI&#8217;N RHEDEG HANNER MARATHON CAERDYDD AR GYFER ELUSEN CYMDEITHAS YNYS ECHNI &#8211; BETH MAE&#8217;R YNYS YN EI OLYGU I TI? <\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Er mai dim ond ers ychydig fisoedd rydw i wedi bod yn gweithio yma, mae Ynys Echni wedi dod yn rhan fawr o fy swydd, ac rwy&#8217;n teimlo mor lwcus fy mod i&#8217;n cael ei hyrwyddo. Mae&#8217;n ynys mor brydferth ac yn rhywbeth rydyn ni mor ffodus o\u2019i gael mor agos at Gaerdydd.<\/p>\n<p>Sarah Magor: Mae rhedeg ar gyfer Cymdeithas Ynys Echni yn meddwl cymaint i mi. Mae&#8217;n codi ymwybyddiaeth o harddwch a hanes ein treftadaeth Gymreig a gwarchodfa natur sy&#8217;n haeddu mwy ac na ddylid ei anghofio. Rwy&#8217;n falch o fod yn rhan o&#8217;r digwyddiad hwn ac mae&#8217;n agos iawn at fy nghalon.<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Rydw i wedi gweithio ar y Prosiect Ynys Echni am lai na blwyddyn ac mae&#8217;r ynys eisoes yn un o fy hoff lefydd yn y byd i gyd. Gallwch ofyn i unrhyw un sydd wedi bod ar Ynys Echni, mae&#8217;n brofiad arbennig. Bydd y ffrindiau rydych chi&#8217;n eu gwneud, y profiadau rydych chi&#8217;n eu cael a&#8217;r pethau rydych chi&#8217;n eu dysgu yn aros gyda chi am byth.<\/p>\n<p>Simon: Mae&#8217;n lle i ddod o hyd i lonyddwch mewn byd sy\u2019n fwyfwy stwrllyd.<\/p>\n<p>Julie: Mae&#8217;r ynys yn meddwl cymaint i mi fel na allaf ei gyfleu mewn ychydig eiriau! Treuliais flwyddyn yn gwirfoddoli ar yr ynys a daeth yn gartref i mi. Syrthiais mewn cariad \u00e2\u2019r ffordd o fyw, y natur, y bywyd gwyllt, y m\u00f4r a&#8217;r bobl. Roedd yn fy atgoffa o sut yr hoffwn fyw ac fe roddodd lonyddwch a phersbectif i mi. Ni fyddaf byth yn ei hanghofio cyhyd ag y byddaf yn byw ac rwyf wedi gwneud ffrindiau gwych.<\/p>\n<p><strong>PA WAHANIAETH FYDD YR ARIAN A GODIR YN EI WNEUD I&#8217;R YNYS?<\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Bydd yn helpu i gynnal a chadw&#8217;r ynys fel y gall mwy o bobl weld yr harddwch sydd ar Ynys Echni.<\/p>\n<p>Sarah Magor: Hoffwn weld yr adeiladau yn cael eu cadw cyn iddynt gael eu colli.<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Gyda chefnogaeth rhoddion, gallwn barhau i wneud popeth a wnawn ar Ynys Echni i ddiogelu hanes anhygoel a bywyd gwyllt yr ynys. Ynys fechan yw Ynys Echni (hanner milltir o led a hyd!), ond mae&#8217;n llawn treftadaeth ac yn rhan bwysig o Gymru, ein diwylliant, a&#8217;n stori. Rydym mor freintiedig ar Ynys Echni o gael bywyd gwyllt gwych hefyd, fel gwylanod cefnddu lleiaf, gwylanod y penwaig a gwylanod cefnddu mwyaf sydd ar y rhestr goch neu oren. Mae rhoddion hefyd yn ein helpu i rannu ein hynys gyda chymunedau yng Nghaerdydd.<\/p>\n<p>Simon: Bydd pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth enfawr; mae&#8217;r ynys mewn angen dybryd am fuddsoddiad a bydd yn ein helpu ni i&#8217;w gwarchod er mwyn i bobl ei mwynhau.<\/p>\n<p>Julie: Gwell offer, cyfarpar, tractor ac yn y blaen, ac i atgyweirio pethau er mwyn ei chynnal. Yn gyffredinol, bydd yr ynys a&#8217;i th\u00eem ymroddedig o wirfoddolwyr a warden yn elwa os bydd mwy o arian yn cael ei roi. Hefyd, mae angen cymorth ariannol ar y bywyd gwyllt, felly y gall elwa o&#8217;r ynys yn ffynnu.<\/p>\n<p><strong>BETH YW&#8217;R PETH GORAU AM REDEG FEL RHAN O D\u00ceM? <\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Mae&#8217;n wych cael cwmni a rhywfaint o gefnogaeth pan fyddwch chi&#8217;n rhedeg.<\/p>\n<p>Sarah Magor: I rannu profiad ac atgofion gwych, ac ysgogi eich gilydd.<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Weithiau mae&#8217;n anodd dod o hyd i&#8217;r cymhelliant i hyfforddi, ac mae cefnogaeth eich cyd-chwaraewyr, yn eich cadw i fynd, yn bopeth. Un o fy hoff bethau yw pan fyddwch yn gweld eich cyd-chwaraewyr yn gwella wrth eich ymyl, rydych chi ar daith gyda&#8217;ch gilydd i fod y gorau y gallwch chi fod.<\/p>\n<p>Simon: Y potensial o allu cario mwy o fyrbrydau&#8230; cefnogaeth ar y cyd o\u2019n i\u2019n meddwl.<\/p>\n<p>Julie: Chwerthin da, annog ei gilydd a chael HWYL!<\/p>\n<p><strong>PWY FYDDAI DY GYFAILL RHEDEG DELFRYDOL?<\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Rwy&#8217;n rhedeg ar fy mhen fy hun fel arfer, gan fy modd i\u2019n cael trafferth siarad pan dwi&#8217;n rhedeg! Ond byddai unrhyw un sy&#8217;n gefnogol yn wych!<\/p>\n<p>Sarah Magor: Dwi wrth fy modd yn rhedeg gyda phawb &#8211; o bobl brofiadol i ddechreuwyr &#8211; mae bob math o redeg yn hwyl pan fod gennych gyfaill.<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Mae fy nghi, Hildi, yn gyfaill rhedeg gwych. Mae hi&#8217;n hoffi mynd ar \u00f4l defaid, gwiwerod, cathod, beiciau ac unrhyw beth arall sy&#8217;n symud yn anffodus\u2026 Hildi, mae&#8217;n debyg, ar lwybr tawel heb ddefaid.<\/p>\n<p>Simon: Dwi\u2019n rhedeg ar fy mhen fy hun, ond efallai Nicholas Cage neu Keanu Reeves.<\/p>\n<p>Julie: Rhywun sy&#8217;n amyneddgar, nad yw\u2019n rhy ddifrifol na chystadleuol.<\/p>\n<p><strong>AC UN PETH ARALL&#8230;<\/strong><\/p>\n<p>Ellie: Amdani D\u00eem Ynys Echni!<\/p>\n<p>Sarah Magor: Rwy&#8217;n dymuno&#8217;r gorau i bawb ac yn edrych ymlaen at gwrdd \u00e2 chi.<\/p>\n<p>Sarah Morgan: Shwmae bawb!<\/p>\n<p>Simon: Dwi\u2019n rhedeg bob tro y bydda i am wella fy hwyliau, mae&#8217;n helpu i glirio fy meddwl ac yn gwneud i mi deimlo\u2019n dda!<\/p>\n<p>Julie: Bant \u00e2 ni!<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi y bydd T\u00eem Ynys Echni yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yr hydref hwn! Bydd yr arian a godir drwy&#8230;","protected":false},"author":2,"featured_media":18112,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[163],"tags":[],"class_list":["post-18160","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-ynys-echni"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.6 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Rhedwyr Ynys Echni - Cardiff Harbour Authority<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Rhedwyr Ynys Echni - Cardiff Harbour Authority\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi y bydd T\u00eem Ynys Echni yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yr hydref hwn! Bydd yr arian a godir drwy...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cardiff Harbour Authority\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-08-12T14:39:33+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-08-12T14:47:40+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/wp-content\/uploads\/Sarah-Simon-cropped.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1152\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"904\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Medina Bailey\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Medina Bailey\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"10 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/cy\\\/rhedwyr-ynys-echni\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/cy\\\/rhedwyr-ynys-echni\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Medina Bailey\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/15f879f1e12e28a890a1d279d3186d7c\"},\"headline\":\"Rhedwyr Ynys Echni\",\"datePublished\":\"2024-08-12T14:39:33+00:00\",\"dateModified\":\"2024-08-12T14:47:40+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/cy\\\/rhedwyr-ynys-echni\\\/\"},\"wordCount\":2186,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/cy\\\/rhedwyr-ynys-echni\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/Sarah-Simon-cropped.jpg\",\"articleSection\":[\"Newyddion Ynys Echni\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/cy\\\/rhedwyr-ynys-echni\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/cy\\\/rhedwyr-ynys-echni\\\/\",\"name\":\"Rhedwyr Ynys Echni - Cardiff Harbour Authority\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/cy\\\/rhedwyr-ynys-echni\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/cy\\\/rhedwyr-ynys-echni\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/Sarah-Simon-cropped.jpg\",\"datePublished\":\"2024-08-12T14:39:33+00:00\",\"dateModified\":\"2024-08-12T14:47:40+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/15f879f1e12e28a890a1d279d3186d7c\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/cy\\\/rhedwyr-ynys-echni\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/cy\\\/rhedwyr-ynys-echni\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/cy\\\/rhedwyr-ynys-echni\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/Sarah-Simon-cropped.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/Sarah-Simon-cropped.jpg\",\"width\":1152,\"height\":904},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/cy\\\/rhedwyr-ynys-echni\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Rhedwyr Ynys Echni\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/\",\"name\":\"Cardiff Harbour Authority\",\"description\":\"Cardiff Harbour Authority manages and maintains Cardiff bay and the barrage.\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/15f879f1e12e28a890a1d279d3186d7c\",\"name\":\"Medina Bailey\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cardiffharbour.com\\\/cy\\\/author\\\/cc_mb\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Rhedwyr Ynys Echni - Cardiff Harbour Authority","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Rhedwyr Ynys Echni - Cardiff Harbour Authority","og_description":"Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi y bydd T\u00eem Ynys Echni yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yr hydref hwn! Bydd yr arian a godir drwy...","og_url":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/","og_site_name":"Cardiff Harbour Authority","article_published_time":"2024-08-12T14:39:33+00:00","article_modified_time":"2024-08-12T14:47:40+00:00","og_image":[{"width":1152,"height":904,"url":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/wp-content\/uploads\/Sarah-Simon-cropped.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Medina Bailey","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Medina Bailey","Est. reading time":"10 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/"},"author":{"name":"Medina Bailey","@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/#\/schema\/person\/15f879f1e12e28a890a1d279d3186d7c"},"headline":"Rhedwyr Ynys Echni","datePublished":"2024-08-12T14:39:33+00:00","dateModified":"2024-08-12T14:47:40+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/"},"wordCount":2186,"image":{"@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/wp-content\/uploads\/Sarah-Simon-cropped.jpg","articleSection":["Newyddion Ynys Echni"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/","url":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/","name":"Rhedwyr Ynys Echni - Cardiff Harbour Authority","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/wp-content\/uploads\/Sarah-Simon-cropped.jpg","datePublished":"2024-08-12T14:39:33+00:00","dateModified":"2024-08-12T14:47:40+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/#\/schema\/person\/15f879f1e12e28a890a1d279d3186d7c"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/wp-content\/uploads\/Sarah-Simon-cropped.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/wp-content\/uploads\/Sarah-Simon-cropped.jpg","width":1152,"height":904},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/rhedwyr-ynys-echni\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Rhedwyr Ynys Echni"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/#website","url":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/","name":"Cardiff Harbour Authority","description":"Cardiff Harbour Authority manages and maintains Cardiff bay and the barrage.","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/#\/schema\/person\/15f879f1e12e28a890a1d279d3186d7c","name":"Medina Bailey","url":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/author\/cc_mb\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/18160","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=18160"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/18160\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":18164,"href":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/18160\/revisions\/18164"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18112"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=18160"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=18160"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardiffharbour.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=18160"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}