Bywyd Gwyllt a Chadwraeth

Bywyd Gwyllt a Chadwraeth

Gwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd

Awdurdod yr Harbwr ddatblygodd ac sy’n rheoli’r Warchodfa Gwlyptir, sydd yn safle o ryw 8 erw, ar lannau gogleddol Bae Caerdydd rhwng Gwesty Dewi Dant ac Afon Taf.

Wedi ei greu ar hen forfa heli, mae’r ardal yn gynefin i amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys anifeiliaid di-asgwrn-cefn, pysgod a mathau eraill o fywyd gwyllt.

Mae’r warchodfa yn hawdd ei chyrraedd ar hyd rhodfa raeanog a llwybr bordiau, ac mae ganddi ardal wylio sy’n ymestyn allan dros y dŵr, sy’n lleoliad perffaith ar gyfer gwylio adar.

Lawrlwythwch y Llwybr Antur Bywyd Gwyllt i blant ac ewch â nhw ar daith llawn hwyl drwy’r warchodfa. Am ragor o fanylion am weithgareddau addysgol, ewch i’r adran Addysg.

Caiff gweithgareddau cynnal a chadw ar gyfer y Warchodfa eu cynnal mewn partneriaeth â gwasanaeth Parcmyn Cyngor Caerdydd.

Learn

Pysgod mudol

Bu Awdurdod yr Harbwr yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’r sefydliadau cynt er mwyn monitro effaith adeiladu a gweithredu’r Morglawdd ar daith pysgod mudol (eogiaid a brithyllod môr).

Mae nifer fawr o eogiaid bychain yn cael eu rhyddhau i Afon Taf bob blwyddyn ac maen nhw’n bwydo a thyfu yno tan y maen nhw’n ddigon mawr i fudo i’r môr. Mae’r pysgod mawr yn dod yn ôl i’r afonydd i atgenhedlu, ac mae dal pysgod yn y Gored Ddu a Chored Radur wedi helpu i amcangyfrif faint o bysgod sy’n dod yn ôl yn llwyddiannus trwy lwybr pysgod y Morglawdd.

Yn ogystal â monitro, mae arian prosiect hefyd yn cael ei neilltuo ar gyfer tramwyfeydd pysgod a gwelliannau i’w cynefinoedd ar hyd afonydd Taf ac Elái, er mwyn hwyluso mynediad pysgod a chynnig ardaloedd magu addas.

Rhywogaethau ymledol

Mae Bae Caerdydd yn gartref i nifer o rywogaethau ymledol. Mae planhigion ymledol megis Llysiau’r Dial, Ffromlys Chwarennog ac Efwr Mawr yn tyfu ar hyd glannau’r afon. Mae gan Awdurdod yr Harbwr gynllun trin er mwyn gostwng ymlediad y planhigion hyn, ac os yw’n bosib, eu difa.

Mae Misglod rhesog a berdys goresgynnol yn y dŵr.  Gall y rhain gystadlu’n rhy dda â chreaduriaid eraill y dŵr a lleihau’r bioamrywiaeth. Gall Misglod rhesog hefyd achosi niwed i strwythurau a llongau tanforol. Mae’n drosedd dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad i achosi lledu rhywogaethau ymledol.

I leihau’r risg o ledaenu’r creaduriaid hyn i safleoedd eraill, mae AHC yn gofyn i holl ddefnyddwyr y Bae ddilyn egwyddorion ‘Gwirio, Glanhau, Sychu’. Ceir rhagor o fanylion yn nonnativespecies.org.

Mae’r AHC yn aelodau o grŵp Rhywogaethau Goresgynnol Estron Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, sydd â’r nod o ddatblygu arfer gorau ledled Cymru i leihau lledaeniad ac effaith rhywogaethau anfrodorol.

Ar y dudalen hon
Gweler hefyd... Monitro amgylcheddol Gweithrediadau amgylcheddol

Bywyd Gwyllt a Chadwraeth

Rhagolwg Ansawdd Dwr