Tel: 029 2087 7900

 
  Cartref | Newyddion | Hamdden | Ymweld | Morglawdd | Dysgu | Yr Amgylchedd | Dŵr Daear | Harbwr feistr | Cysylltwch â Ni |

Cartref

                                          

  
   Pwy ydym ni?

  Pentref Chwaraeon

   Projectau AHC cyfredol 

  Gwobrau



 

 


 

 

 


Croeso i Fae Caerdydd!

Caerdydd, Prifddinas Cymru, yw un o gyrchfannau ymwelwyr mwyaf poblogaidd y DU. Mae’n enwog am ei diwylliant, ei chwaraeon a’i thraddodiadau artistig a morwrol, ac rydym yn falch bod mwy a mwy o bobl yn dod i ddarganfod ein dinas a'i glannau.

Rheolir Bae Caerdydd, y Morglawdd, yr Harbwr Mewnol ac Allanol a rhannau o Afon Taf ac Elái yn llwyddiannus gan Awdurdod Harbwr Caerdydd, sy’n rhan o Gyngor Caerdydd. Crëwyd y llyn dŵr croyw 200 hectar yn 2001, ac mae’n parhau i ddatblygu a ffynnu, gyda nifer o brojectau ar y gweill. - Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am brojectau Awdurdod yr Harbwr.

O ddydd i ddydd, mae Awdurdod yr Harbwr yn gyfrifol am weithredu’r Morglawdd, y dyfrffyrdd a monitro’r amgylchedd, mae manylion hyn i gyd ar y wefan hon. Mae’r ardal yn denu defnyddwyr badau, ac mae yno ddau glwb badau hwylio ffyniannus, dau farina a sawl busnes masnachol morwrol. Mae dros 1000 o longau preswyl yn angori yn y Bae, ac mae’r nifer hwn yn codi bob blwyddyn.

Rydym hefyd yn rheoli nifer o leoliadau yn y Bae:

Rydym hefyd yn rheoli nifer o leoliadau yn y Bae: - Cliciwch yma

Canolfan Ymwelwyr Bae Caerdydd, a adwaenir yn lleol fel y Tiwb - Cliciwch yma

Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd - Cliciwch yma; a hefyd cyfrifoldeb dros Ynys Echni Cliciwch yma.

O'r Pasg ymlaen bydd Awdurdod yr Harbwr yn darparu calendr o ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol, rhyngwladol ar y dŵr a’r tir i ymwelwyr a thrigolion Caerdydd eu mwynhau - Cliciwch yma

Gyda’r bwytai a bariau gwych yn yr Harbwr Mewnol, a llefydd gwych i gerdded a golygfeydd hynod o’r Bae o’r Morglawdd, ni fu erioed amser gwell i ymweld â Bae Caerdydd.


 

[Saesneg]

-------------------

Jobs Page

Cardiff Harbour Authority and Cardiff County Council 

-------------------
 



-----------------------

Weather

- Cardiff Bay Barrage

- Flat Holm Island

(Indicative only)

--------------------  

Water Quality Data

-
Real Time, Cardiff Bay