Gosodwyd gwahanol ofynion statudol ar
Awdurdod Harbwr Caerdydd i amddiffyn a mwyhaur amgylchedd naturiol.
Mae Adran 14 Deddf Argae Bae Caerdydd (1993) yn dweud:
Wrth reolir bae mewndirol bydd [Awdurdod
HarbwrCaerdydd] yn dal sylw ar y
manteision o ddatblygu a diogelur planhigion ar anifeiliaid.
Bydd [Awdurdod Harbwr Caerdydd] yn
ymgynghori âr Cyngor Cefn Gwlad i ymofyn eu barn ynglyn âr ffyrdd y gellir rheolir bae
mewnol er mwyn datblygu a diogelur planhigion ar anifeiliaid.
I gyflawni hyn, mae Awdurdod Harbwr
Caerdydd wedi ymrwymo i ddiogelur anifeiliaid ar planhigion yn y Bae
wrth gyflawni eu holl weithgareddau. Roedd hyn yn arbennig o bwysig
yn ystod y gwaith adeiladu helaeth mewn cysylltiad â datblygiad Bae
Caerdydd.
Er mwyn rheoli gwarchodaeth natur yn
effeithiol, maen hanfodol gwybod pa rywogaethau syn bresennol a sut
maer amrywiol gymunedaun datblygu. I gyflawni hyn, mae Awdurdod
Harbwr Caerdydd wedi gweithredu ystod o raglenni monitro.
Maer projectau gwarchod natur penodol a
gyflawnir yn y Bae yn cynnwys: