[cymraeg/topnav.htm]

YR AMGYLCHEDD

 
   
   

Cadwraeth

   
   
   
   
   
   

   
 

 
 

 
 

 

 

GWLYPTIROEDD
 

hafan > cadwraeth > gwlyptiroedd

 

GWLYPTIROEDD

 
Cardiff Bay Wetlands

Mae Gwlyptir Gwarchod Natur Bae Caerdydd yn ardal o ryw 8 hectar ar draeth gogleddol Bae Caerdydd, rhwng Gwesty St David ac arllwysfa’r Taf.  Agorwyd yr ardal fel gwarchodfa bywyd gwyllt yn swyddogol yng Ngorffennaf 2002, a chyn hynny roedd yn ardal morfa heli tan y caewyd Argae Bae Caerdydd ym Ebrill 2001.  Mae’r nodweddion o waith dyn a geir yn y Warchodfa yn cynnwys cronfa fawr ynghanol cors yn ardal ogleddol y safle a anelir at ddenu amrywiaeth o anifeiliaid di-asgwrn cefn a bywyd gwyllt arall ar gyfer dibenion llyn-ddipio, gan mai hwn ydyw’r unig ardal lle gallai’r cyhoedd gael mynediad uniongyrchol ato.

Adeiladwyd y ffos sy’n rhedeg ar hyd y warchodfa i rwystro’r cyhoedd rhag cael mynediad i’r warchodfa yn bennaf.  Mae’r warchodfa sydd i’r de o’r ffos yn cynnwys morlynnoedd, pantiau, ynysoedd a noddfâu adar arnofiol.

I’r de o’r warchodfa, yn nyfroedd y Bae ei hun, rhed bwnd carreg hir 360 metr o hyd ar hyd y draethlin â’r bwriad o leihau erydiad drwy effaith y tonnau.  Tu hwnt i’r bwnd mae rhwystr a adeiladwyd yn arbennig i atal y gwlyptiroedd rhag cael eu boddi â malurion- dwr yn ystod cyfnodau pan fydd lefelau’r dwr yn uchel.

Ceir mynediad cyhoeddus i’r warchodfa drwy lwybr sy’n rhedeg o’r maes parcio cyfagos i Gwesty St David, rhwng y warchodfa a’r ffos, i orllewin y warchodfa lle ceir llwybr bordau a man gwylio, sef y lle gorau oll i wylio adar yn y warchodfa.  Hefyd, yn ystod y misoedd cynhesaf, gellir gweld pysgod yn heigio o amgylch pileri’r llwybr bordau.

Ers cau’r argae yn 2001, mae’r warchodfa wedi datblygu gam wrth gam, o ran y planhigion a’r blodau, o’r cynefin aberol blaenorol. Ar hyn o bryd mae’r llystyfiant yn cynnwys yr helygen a’r wernen Carr, gwelyau cors, llysiau tal y gors a chyfoeth o rywogaethau glaswellt sydd eisoes wedi denu amrywiaeth mawr o anifeiliaid di-asgwrn cefn a’r rhai ag asgwrn cefn, o darddiad daearol a dyfrol.

Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn ariannu ysgoloriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n edrych ar gytrefiad Bae Caerdydd gan rywogaethau dwr croyw.   Fel rhan o’r gwaith, paratoir adroddiadau misol i ddangos y newidiadau yn y cymunedau adar drwy gydol y flwyddyn.  Gellir gweld y rhain yma.

Adroddiadau’r Warchodfa Gwlyptir.

Ym Mai a Mehefin, cyfrifwyd y cyfan o ardal Bae Caerdydd fel rhan o’r arolwg adar gwlyptir (WeBS).  Rhannwyd y Bae yn isadrannau fel y gellid edrych ar y niferoedd o adar sy’n byw ymhob un o’r gwahanol gynefinoedd a geir yn yr ardal, gan roi sylw arbennig i’r warchodfa Gwlyptir.

Ym Mai, roedd 12 cotiar yn y gwlyptir, amryw ohonynt yn magu cywion.  Roedd 12 mulfran ar y warchodfa hefyd, sef 80% o’r cyfan a gofnodwyd yn y bae i gyd, sy’n dangos hoffter y rhywogaeth yma o’r warchodfa.  Roedd pâr o elyrch mud yn bridio ar y warchodfa hefyd, ac fe nodwyd bod dwy hwyaden yr eithin yno’n clwydo.  Drwodd a thro cofnodwyd bron i draean (29%) o’r holl adar a gofnodwyd yn y Bae yn y warchodfa. Bydd unrhyw un a ymwelodd â’r Bae yn ddiweddar wedi sylwi ar y niferoedd enfawr o wennoliaid yn bwydo yn yr ardal (amcangyfrifir bod rhwng 2,000 a 3,000!) a hefyd llawer o wennoliaid y bondo sy’n mwynhau’r niferoedd mawr o wybed a chronomidau sy’n codi o ddyfroedd y bae.

Ildiodd y prif gyfrif ym Mehefin rai canlyniadau diddorol: yn arbennig, y nifer mawr iawn o elyrch mud (74) a gofnodwyd yn y bae cyfan, sy’n llawer mwy nag unrhyw gyfrifiad a gyflawnwyd yn y bae yn ystod y 34 blynedd olaf! 

Unwaith eto roedd y nifer o fulfrain a chwtieir yn uchel yn y warchodfa, gyda phob un o’r 15 mulfran a welwyd yn y warchodfa ei hun. Cofnodwyd tair Gwyach fawr gopog, naw hwyaden wyllt a chrëyr glas ar y warchodfa hefyd.  Unwaith eto gwelwyd gwennoliaid ac adar tebyg yn bwydo uwchben y bae mewn niferoedd anhygoel, gan wneud amcangyfrif ohonynt bron iawn ym amhosibl.  Ymhlith y golfannod eraill a gofnodwyd ar y gwlyptir roedd llinos, bras y gors, corhedydd y waun a’r peneuryn.  Unwaith eto roedd y gwlyptiroedd yn cynnwys bron i draean o’r holl adar a welwyd (30%) ar y dyddiad hwn, gan ddangos ei bwysigrwydd fel cynefin adar yn ardal y bae.

Ffigur 1: Cyfrif WeBS Mai

Rhywogaeth

Rhifau
(y bae cyfan)
Gwarchodfa'r Gwlyptir 5 o’r cyfanswm o Warchodfa’r Gwlyptir
Gwyach fawr gopog 12 0 0
Mulfran 15 12 80
Hwyaden wyllt 28 0 0
Hwyaden yr eithin 9 2 22
Alarch mud 6 3 50
Cotiar 29 12 41
Hwyaden gopog 2 0 0
Cyfanswm 101+ 29 29
       

Ffigur 2: Cyfrif WeBS Mehefin

Rhywogaeth Rhifau
(y bae cyfan)
Gwarchodfa'r Gwlyptir 5 o’r cyfanswm o Warchodfa’r Gwlyptir
Gwyach fawr gopog 8 3 37
Mulfran 15 15 100
Hwyaden wyllt 21 9 43
Hwyaden yr eithin 21 0 0

Alarch mud

73 5 7
Cwtiad torchog 1 0 0
Cotiar 34 20 59

Hwyaden gopog

3 0 0
Crëyr Glas 1 1 100
Cyfanswm 177+ 53 30
 

Chwilio
  CYSYLLTIADAU
  Asiantaeth yr Amgylchedd
 

Cyngor Cefn Gwlad Cymru

  Ymddiriedolaeth yr Adaregwyr Prydeinig
 

RSPB

 

ASERA (Cymdeithas Awdurdodau Perthnasol Aber Hafren)

 

Prifysgol Caerdydd

  Cadw Cymru’n Daclus
  Asiantaeth Arforol a Gwylwyr y Glannau
 

Yr Ymddiriedolaeth Carbon

 

cliciwch fan hyn ar y cysylltiadau

 


Nid yw Awdurdod Harbwr Caerdydd yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau allanol
 

Hawlfraint Awdurdod yr Harbwr Caerdydd 2003 | Cedwir Pob Hawlfraint