[cymraeg/topnav.htm]

YR AMGYLCHEDD

 
   
   

Cadwraeth

   
   
   
   
   
   

   
 

 
 

 
 

 

 

cynllun gweithredu cadwraeth
 

hafan > cadwraeth > cynllun gweithredu cadwraeth

 
cynllun gweithredu cadwraeth
 

Cliciwch ar y cyswllt yma i weld y Strategaeth Gwarchod Natur drafft ar gyfer Bae Caerdydd, Awdurdod Harbwr Caerdydd. 

Dogfen Ymgynghori Strategaeth Gwarchod Natur  (935k).

Os dymunwch gynnig sylwadau ar unrhyw agwedd o’r ddogfen, anfonwch e-bost at dahall@cardiff.gov.uk.

Conservation in the Bay  

Ym 1992, daeth Uwch-gynhadledd y Byd y Cenhedloedd Unedig yn Rio de Janeiro i ben â chytundeb ar bwysigrwydd cynaliadwyedd a bioamrywiaeth. Ateb Prydain i’r sialens a osodwyd drwy’r trefniadau hyn oedd paratoi Papur Gwyn 1990 yn dwyn y teitl “This Common Inheritance”, a oedd yn datgan ymrwymiad y Llywodraeth i ddatblygiad cynaliadwy.  Ym 1994, cyhoeddwyd dwy strategaeth, un ar ddatblygiad cynaliadwy a’r llall o’r enw ‘Biodiveristy – the UK Action Plan’.  Darparodd y dogfennau hyn y fframwaith i Awdurdodau Lleol (ymhlith eraill) i baratoi eu cynlluniau eu hunain ar gyfer cyflawni datblygiad cynaliadwy a gwarchod bioamrywiaeth.

“Meddyliwch yn Fyd-Eang, Gweithredwch yn Lleol”, ydyw’r ymadrodd sy’n cynrychioli’r agwedd hon orau. 

Ar lefel leol, cynhyrchodd Cyngor y Ddinas Strategaeth yr Amgylchedd ar gyfer Caerdydd yn 1990.  Cymeradwywyd Strategaeth Hamdden Caerdydd ym 1994 gan gadarnhau’r angen i ddiogelu’r ardaloedd a ystyrir yn werthfawr o ran gwarchod natur o fewn ffiniau’r Ddinas. Ym 1996, cyhoeddwyd Cyfarwyddiadau Cynllunio Atodol i Gynllun Lleol Dinas Caerdydd drwy ddogfen o’r enw ‘Strategaeth Gwarchod Natur Dinas Caerdydd’.  Y ddogfen ddiweddaraf a baratowyd gan Gyngor Sir Caerdydd mewn perthynas â Bioamrywiaeth oedd ‘Yn Wyllt am Gaerdydd’, Cynllun Bioamrywiaeth Lleol Caerdydd, ym Mawrth 2002.

Er bod y dogfennau a restrir uchod yn darparu mewnwelediad i amgylchedd naturiol Caerdydd gan nodi dyheadau’r Cyngor o ran gwarchod natur, fe’u paratowyd cyn adeiladu Argae Caerdydd a datblygiad y llyn dwr croyw y tu cefn iddi.  Bwriad y Strategaeth Gwarchod Natur ydyw atodi’r cyfarwyddyd blaenorol gan Gyngor Sir Caerdydd, a gweithredu fel dogfen sy’n manylu ar ba rywogaethau sy’n bresennol ym Mae Caerdydd a pha waith sy’n gysylltiedig â diogelu’r amgylchedd newydd a datblygol hwn.   Dylid pwysleisio er bod Bae Caerdydd yn gymharol newydd, mae eisoes wedi datblygu’n amgylchedd o ansawdd.

O ddewis, dylid magu agwedd gydlynol at warchod natur ym Mae Caerdydd.  Wrth i ddatblygiadau newydd gael eu hadeiladu, mae’n rhaid cael dogfen ar gael sy’n cynnig cyfarwyddyd.  Gellir ystyried y strategaeth hon fel y cam cyntaf tuag at ddatblygu cyfarwyddyd cynllunio ar gyfer Bae Caerdydd, gan y bydd yn cael ei hadolygu’n flynyddol a bydd yn datblygu’n declyn a ellir ei ddefnyddio i orchymyn i ba gyfeiriad yr aiff projectau’r dyfodol.  Yn ogystal â chyfarwyddo’r gwaith o warchod y planhigion a’r anifeiliaid ym Mae Caerdydd, bydd y Cynllun hwn yn gweithredu fel teclyn i hyrwyddo’r Bae fel adnodd addysgiadol.

 

Chwilio
  CYSYLLTIADAU
  Asiantaeth yr Amgylchedd
 

Cyngor Cefn Gwlad Cymru

  Ymddiriedolaeth yr Adaregwyr Prydeinig
 

RSPB

 

ASERA (Cymdeithas Awdurdodau Perthnasol Aber Hafren)

 

Prifysgol Caerdydd

  Cadw Cymru’n Daclus
  Asiantaeth Arforol a Gwylwyr y Glannau
 

Yr Ymddiriedolaeth Carbon

 

cliciwch fan hyn ar y cysylltiadau

 


Nid yw Awdurdod Harbwr Caerdydd yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau allanol
 

Hawlfraint Awdurdod yr Harbwr Caerdydd 2003 | Cedwir Pob Hawlfraint