Cardiff Harbour Authority
hafan morglawdd amgylchedd hamdden harbwrfeistr ewch ar daith dysgu newyddion ddelweddauddelweddau cyswlltwch

 

 

ANSAWDD DWR
  hafan > yr amgylchedd > ansawdd dwr
 
ANSAWDD DWR


YMWADIAD
 

Water Quality in Cardiff Bay

 


Rhoddwydd rhaglen fonitro ansawdd d
wr cynhwysfawr ar waith i hyrwyddo’r gwaith o reoli amgylchedd dwr croyw 200 hectar Bae Caerdydd yn effeithiol.

Gosodwyd chwe o fwiau monitro mewn sawl man strategol o fewn y bae a’r afonydd. Mae’r bwiau hyn yn dadansoddi’r dwr bob chwarter awr ac yn anfon y canlyniadau at swyddfa Awdurdod Harbwr Caerdydd.  Mae’r bwiau monitro yn gallu mesur ystod o baramedrau cemegol a ffisegol sy’n galluogi i ni asesu ansawdd y dwr sef Tymheredd, Dargludedd, Ocsigen Toddedig, pH a Chymylogrwydd .   Defnyddir y data o’r bwiau monitro yn ogystal â rhaglen fonitro symudol sy’n cynnwys mesur ar y safle a dadansoddi samplau cemegol a microbiolegol o’r Bae, Afon a’r dwr daear pwmpiedig yn y labordy. Gyda’i gilydd mae’r data yn golygu y gellir asesu ansawdd y dwr a nodi unrhyw dueddiadau newidiol yn ansawdd y dwr yn y gronfa.

Monitro Paramedrau

Bydd Awdurdod Harbwr Caerdydd yn mesur y paramedrau isod yn rheolaidd yn y safleoedd amrywiol o fewn y Bae a’r afonydd i asesu ansawdd y dwr.


Fel rheol mae ystod y dwr arwyneb (o’i gyferbynnu â dwr daear) yn y Deyrnas Unedig rhwng 0°C a 30°C. Mae tymheredd yr aer, pelydriad heulol, cryfder y gwynt a llif a dyfnder y dwr oll yn effeithio ar dymheredd y dwr.

Mae mwy o weithgarwch microbig (bacterol) wrth i’r tymheredd godi sy’n golygu bod y sylweddau organig yn ymddatod, proses sy’n defnyddio ocsigen toddedig.

Yn ogystal mae cyfradd metaboledd anifeiliad dyfrol yn gysylltiedig â thymheredd. Mae organebau dyfrol yn anadlu’n gyflymach mewn dwr cynnes sy’n golygu eu bod yn defnyddio mwy o ocsigen. Felly os yw tymheredd y dwr yn codi gall gyfuniad o’r ffactorau arwain at ddefnyddio’r holl ocsigen toddedig yn y dwr. Nid yw’r ocsigen yn hydoddi cymaint yn y dwr wrth i’r tymheredd godi. Er enghraifft pan fydd y gwasgedd atmosfferig yn 760mm bydd dwr croyw 4 gradd Celsiws yn cymryd rhyw 13 miligram o ocsigen ym mhob litr o ddwr  ond bydd yr un dwr  ar dymheredd o 23 gradd Celsiws yn llawn pan fydd yn cynnwys 8.6 miligram o ocsigen yn unig.

Dargludedd
Mae dargludedd penodol, yn mesur gallu’r dwr i ddargludo cerrynt trydanol. Mae dwr yn dargludo trydan oherwydd yr halwynau mwynol ynddo. Mae’r halwynau wrth hydoddi yn y dwr yn gwahanu’n ïonau positif neu negyddol. Dan ddylanwad foltedd cymhwysol mae’r ïonau yn symud trwy’r dwr gan ddargludo trydan. Mae ansawdd y trydan a ddargludwyd yn dibynnu ar ba mor gyflym mae’r ïonau’n symud trwy’r dwr, y math o ïon (ac felly faint o gerrynt trydanol mae’n cario) a thymheredd y dwr. Mesurir y dargludedd fel microSiemens ym mhob centimetr (µScm-1). Fel arfer mae dargludedd y mwyafrif o lynoedd dwr croyw rhwng 10 a 1,000 µScm-1.

Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn mesur dargludedd i weld pa mor hallt yw’r dwr.  Mae’n ofyniad i reoli’r argae fel nad oes unrhyw halen yn nwr croyw’r Bae.

Halltedd
Ni ddefnyddir chwiliedyddion electronig i fesur halltedd yn uniongyrchol ond gwneir drwy fesur dargludedd, tymheredd a gwasgedd.

Ocsigen toddedig


Mae ocsigen toddedig yn golygu faint o ocsigen sydd ar gael yn y dwr. Caiff ei nodi’n aml iawn fel miligram o ocsigen ym mhob litr o ddwr (mg/L). Mae ocsigen yn myned i mewn i ddwr mewn amryw o ffyrdd. Sef ei drosglwyddo o’r atmosffer drwy’r rhyngwyneb aer a dwr neu drwy ffotosynthesis (gan gynnwys algâu a diatomau). Mae faint o ocsigen y gellir hydoddi yn y dwr yn dibynnu ar dymheredd, halltedd, a’r gwasgedd nwyon yn y dwr. Mae hydoddedd ocsigen yn lleihau wrth i’r tymheredd a’r lefelau halltedd gynyddu.

Unwaith bod yr ocsigen wedi hydoddi, caiff ei wasgaru gan gerhyntau mewnol drwy’r dwr. Fel arfer mae gan ddwr sy’n llifo lefelau uwch o ocsigen toddedig na dwr llonydd am fod y cerhyntau yn y dwr yn golygu bydd y dwr drwy’r rhyngwyneb aer/ dwr yn cymysgu â’r dwr dyfnach. Mae hyn yn golygu bydd y dwr newydd ar yr arwyneb yn cynnwys llai o ocsigen na’r dwr llawn ocsigen cynt a chaiff hwn ei ailocsigeneiddio drwy ei dynnu o’r atmosffer. Nid yw y dwr llonydd yn cymysgu cymaint felly mae’r haen uchaf o ddwr llawn ocsigen yn aros ar yr arwyneb.  Mae hwn yn golygu bod lefelau’r ocsigen toddedig yn is drwy’r golofn ddwr. Hwn yw’r sail ar gyfer gosod system cymysgu aer yn y Bae wedi’i ddylunio yn bennaf i sefydlu cerhyntau cylchrediad a fyddai fel arall yn ddwr llonydd a fydd yn cymysgu’r dwr drwy ddyfnderoedd y Bae.

Defnyddir yr ocsigen toddedig drwy anadliad anifeiliaid yn ogystal â phlanhigion ac algâu yn ystod y nos. Defnyddir ocsigen gan microrganebau erobig wrth bydru sylwedd organig. Mae’r anadliad yn cyflymu wrth i’r tymheredd dwr gynhesu.  Felly mae’n bwysig sicrhau bod dwr y Bae wedi’i gymysgu’n dda yn ystod yr haf.

Mae’n hanfodol hefyd fod digon o ocsigen yn y dwr i gynnal bywydau’r pysgod a’r amrywiaeth dyfrol cyffredinol.  Rhaid cynnal safon ansawdd dwr o 5mg o ocsigen i bob litr o ddwr y Bae drwy’r adeg.

pH
Dyma fesur asidrwydd neu alcalinedd yr hylif.

Diffinir pH fel log-bôn 10 negyddol o’r crynodiad ïonau hydrogen:

pH = - log10 [H+]

 

Hyd at log-bôn 10  mae’r raddfa pH rhifiadol ac mae’n nodi asidrwydd toddiant ar raddfa o 0 i 14. 7 yw’r pH niwtral y dwr (nad yw’n asidig na’n alcalinaidd). Mae gan doddiannau alcalinaidd pH sy’n fwy na 7 ac mae gan doddiannau asidig pH sy’n llai na 7. 

Gall ychwanegu asid i’r system ddwr newid y pH. Draeniad mwynfa asid a glaw asid yw’r ddwy brif ffynhonnell asid sy’n treiddio i afonydd Cymru.

 

Draeniad Mwynfa Asid
Mae glo’n cynnwys 0.2 - 0.7 y cant sylffwr. Mae’r broses mwyngloddio yn gallu rhoi’r swlffwr mewn ocsigen sy’n troi’n gompownd swlffwr sy’n troi’n sylffad fferrus (FeSO4) ac asid swlffwrig (H2SO4).
Ceir y compownd yma yn y stociau glo a’r tomenni sbwriel a gedwir ar y llawr. Mae’r glaw sy’n cwympo ac yn treiddio drwy’r stociau a thomenni gwastraff yn achosi i’r compownd swlffwr hydoddi a gall y d
wr ffo ar yr arwyneb a’r ymdreiddiad i’r dwr daear fod yn asidig iawn. Ar ôl treiddio i mewn i’r systemau dwr arwyneb gall yr haearn yn y sylffad fferrus waddodi fel hydrocsidau gelatinaidd coch-frown a gorchuddio’r creigiau a gwely’r nant. Er bod y dwr sy’n llifo ar y wyneb yn llawn ocsigen, fel arfer mae cyflwr anerobig yn bodoli o dan y gwaddodion sy’n mygu’r holl fywyd erobig. Yn ogystal gall yr asid yn y dwr, os yw’r lefel yn ddigonol, olygu bod pH y dwr arwyneb yn cwympo i lefel a fydd yn lladd yr holl fywyd dyfrol.
 
Glaw Asid
Mae llosgi tanwydd ffosil wedi golygu rhyddhau canran uchel o ocsid nitrogen a deuocsid sylffwr (NOx and SOx) i’r aer yn ystod y ganrif ddiwethaf. Rhyddheir llawer iawn hefyd drwy brosesau naturiol y ddaear sef ffrwydriad folcanig.
Mae’r, NOxs a SOxs  tra’n cylchdroi yn yr aer yn adweithio i ffurfio nitradau a sylffadau. Mae’r llygrwyr hyn yn cwympo i’r ddaear yn y glaw fel asid nitrig neu sylffwrig gwan.

 

Yn ogystal â bod yn wenwynig gall y dwr asidig achosi’r metelau i symud drwy ddatsugniad o’r gwaddodion. Mae’r metelau wedyn ar gael ar gyfer y bywyd dyfrol a gallant fod yn wenwynig. Er enghraifft, ceir alwminiwm yn y pridd yn aml iawn. Os yw’r lefel asidrwydd yn codi gall achosi’r alwminiwm i symud a bydd rhwng 0.1 a 0.3 mg/l yn amharu ar y tyfiant, yn golygu bod y cyfradd marwolaeth yn uwch ac yn effeithio’n ddifrifol ar gynhyrchiad wyau’r pysgod.

Amonia
Mae amonia rhydd (undebol) yn y dwr yn cydbwyso’r ïonau amoniwm (NH4+) a hydrocsyl (OH-).  Mae’r cydbwysedd yn newid wrth i’r pH a thymheredd y dwr newid.

Mae’r crynodiad amonia rhydd (undebol) yn codi yn y dwr croyw wrth i’r pH a thymheredd godi. Pan fydd y pH a’r tymheredd yn isel, mae’r amonia yn cymysgu â’r dwr i gynhyrchu ïon amoniwm (NH4+) ac ïon hydrocsid (OH-). Nid yw’r ïon amoniwm yn wenwynig yn wahanol i’r amonia undebol sy’n wenwynig iawn. Pan fydd y pH yn uwch na 9 amoniwm undebol yw’r prif rywogaeth.

Cymylogrwydd
Mae cymylogrwydd yn disgrifio’r graddau o gymylogrwydd y dwr. Bydd teithio trwy’r dwr yn golygu gwasgaru gronynnau mewn dalynau. Mae’r faint o olau a wasgerir yn fwy os yw’r lefel o ronynnau mewn dalynau yn cynyddu. Yn arferol mesurir cymylogrwydd mewn Unedau Cymylogrwydd Neffelomedrig (NTU).

Gall solidau mewn dalynau newid gyfansoddiad gymuned dyfrol. Bydd nifer fawr o waddodion mewn dalynau yn lleihau’r treiddiad golau a lleihau’r gweithgarwch ffotosynthetig planhigion ac algâu. Gall hyn effeithio ar y gadwyn fwyd am fod llai o fwyd ar gael i gefnogi’r anifeiliaid di-asgwrn-cefn a gallai olygu y buasai llai o bysgod i fwydo ar yr anifeiliad di-asgwrn-cefn.

Metelau
Mae angen mymryn bach o’r metelau trwm sef copr, cobalt, haearn, manganîs, molybdenwm, fanadiwm, strontiwm, a sinc i gynnal bywyd. Er hynny gall gormod o’r metelau hanfodol hyn achosi niwed. Gall metelau trwm eraill sef cadmiwm, cromiwm, mercwri, plwm, arsenig, a antimoni yn niweidiol i’r bywyd dyfrol.

Caiff y metelau trwm eu tynnu o’r dwr drwy arsugno’r gronynnau gwaddodion a thrwy ffurfio cyfuniad o ddeunydd organig. Gellir dychwelyd y metel a arsugnwyd i’r golofn ddwr drwy ddatsugno o’r gronynnau gwaddodion er mwyn ei gymhathu gan y bywyd dyfrol. Mae’r gyfradd yr arsugno a’r datsugno metelau yn dibynnu ar gemeg cyffredinol y dwr. Gellir datsugno’r metelau o’r gwaddod os yw lefel halen yn y dwr yn codi neu’r pH yn disgyn.

Mae effaith metelau trwm ar organebau dyfrol yn amrywio o newidiadau’n lled angheuol ym morffoleg a ffisioleg (a all arwain at newidiadau yn y patrymau ymddygiad, atgynhedlu neu’r cyfraddau tyfiant), hyd at, farwolaeth.

 
 

Hawlfraint Awdurdod yr Harbwr Caerdydd 2003 | Cedwir Pob Hawlfraint