Yn ystod cyfnodau
dichonoldeb a chynllunio project Argae Bae Caerdydd, roedd pryderon
ynghylch y posibiliad o lefelau dwr
daear yn codi yn Ne Caerdydd ag adeiladau yn yr ardal yn cael eu
difrodi. Seiliwyd y pryder hwn ar y ffaith y byddai lefel dwr
cyffredin y Bae rhyw 4.0m yn uwch ar ôl ei gronni na lefel cyffredin y
dwr
dan reolaeth y llanw fel yr oedd bryd hynny. O ganlyniad, cafodd y
cynllun amddiffyn dwr
daear cynhwysfawr ei gynnwys yn Neddf Argae Bae Caerdydd 1993.
Darperir manylion
y cynllun amddiffyn dwr
daear ynghyd â gwybodaeth yn gysylltiedig â mesurau monitro dwr
daear a rheoli dwr
daear yn yr adran hon.