Cardiff Harbour Authority
hafan morglawdd amgylchedd hamdden harbwrfeistr ewch ar daith dysgu newyddion ddelweddauddelweddau cyswlltwch

 

 

 

GWARCHOD NATUR AC ADFYWIO
 

hafan > gwarchod natur ac adfywio

 
GWARCHOD NATUR AC ADFYWIO

Conservation & Regeneration in Cardiff Bay

Gosodwyd gwahanol ofynion statudol ar Awdurdod Harbwr Caerdydd i amddiffyn a mwyhau’r amgylchedd naturiol.  Mae Adran 14 Deddf Argae Bae Caerdydd (1993) yn dweud:


 

“Wrth reoli’r bae mewndirol bydd [Awdurdod Harbwr Caerdydd] yn dal sylw ar y manteision o ddatblygu a diogelu’r planhigion a’r anifeiliaid.

Bydd [Awdurdod Harbwr Caerdydd] yn ymgynghori â’r Cyngor Cefn Gwlad i ymofyn eu barn ynglyn â’r ffyrdd y gellir rheoli’r bae mewnol er mwyn datblygu a diogelu’r planhigion a’r anifeiliaid.”

I gyflawni hyn, mae Awdurdod Harbwr Caerdydd wedi ymrwymo i ddiogelu’r anifeiliaid a’r planhigion yn y Bae wrth gyflawni eu holl weithgareddau.  Roedd hyn yn arbennig o bwysig yn ystod y gwaith adeiladu helaeth mewn cysylltiad â datblygiad Bae Caerdydd.

Er mwyn rheoli gwarchodaeth natur yn effeithiol, mae’n hanfodol gwybod pa rywogaethau sy’n bresennol a sut mae’r amrywiol gymunedau’n datblygu.  I gyflawni hyn, mae Awdurdod Harbwr Caerdydd wedi gweithredu ystod o raglenni monitro.

 Mae’r projectau gwarchod natur penodol a gyflawnir yn y Bae yn cynnwys:

Gwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd

Atgyweirio ardal feithrinfa bysgod ar Afon Taf islaw’r Bont PDR
Ailsefydlu cynefin glannau yn dilyn adeiladu’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

Plannu ar hyd gwely’r afon ac ar gyrion y Bae er mwyn diogelu’r pysgod breision sydd yn y Bae.

 
 
 

Hawlfraint Awdurdod yr Harbwr Caerdydd 2003 | Cedwir Pob Hawlfraint