Cardiff Harbour Authority
hafan morglawdd amgylchedd hamdden harbwrfeistr ewch ar daith dysgu newyddion ddelweddauddelweddau cyswlltwch

 

 

 

YNNI adnewyddadwy
 

hafan > cadwraeth > ynni adnewyddadwy

 

YNNI ADNEWYDDADWY

Strategaeth Gynaliadwy         Cynnyrch Ynni Adnewyddadwy 3 Blynedd

Mae Cyngor Sir Caerdydd o blaid cynaliadwyedd ac yn ddiweddar mabwysiadodd Awdurdod Harbwr Caerdydd Strategaeth Ynni Adnewyddadwy dros dair blynedd.  Mae hwn yn cynnwys ystod o brojectau arloesol a weithredir yn ac o gwmpas Bae Caerdydd.  Maent yn cynnwys y defnydd o fesuryddion dwr a meysydd parcio sy’n defnyddio ynni haul (fel a welir ar y pontwn ar Gei’r Fôr-forwyn), wrth yr arosfannau tacsis dwr, arddangosfa LED ynni haul ar arosfannau tacsis dwr, a’r defnydd o lampau ynni gwynt a haul i oleuo’r hwyl ar bwynt yr Argae.

Yn ogystal, cynhelir archwiliadau cynaliadwyedd ar adeiladau newydd a ddylunnir ac a adeiladir gan Awdurdod Harbwr Caerdydd er mwyn sicrhau y rhoir ystyriaeth i ddewisiadau ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy fel systemau casglu dwr glaw ac ynni haul ar ddechrau’r gwaith.  Mae Awdurdod yr Harbwr wrthi’n gyson yn cael gwared ar sbwriel a malurion o’r dwr a glannau cyfagos Bae Caerdydd.  Gwneir hyn drwy ddefnyddio cwch ag offer arbennig, sy’n sgwpio’r malurion â braich fecanyddol.  Mae’r cwch ‘Harbwr 1’ ar waith bob dydd yn clirio’r malurion o’r Bae, a ddygir i’r Bae gan afonydd Taf ac Elai.

Bob blwyddyn cesglir hyd at 1,000 tunnell o falurion o’r Bae.  Cyn adeiladu’r Argae, byddai’r gwastraff hwn wedi mynd i mewn i Aber Hafren.  Mae tua 70% o’r gwastraff yn goed, fel boncyffion, brigau a changhennau.  Bwriada Awdurdod yr Harbwr osod bwyler gwresogi biomass (49kW) a system danwydd mewn Adeilad yr Amgylchedd newydd.  Y gosodiad hwn fydd prif ffynhonnell gwresogi yr adeilad, gan ddarparu dwr poeth yn ogystal â gwresogi gofod.  Ategir y bwyler biomass a’i danwydd sglodion coed gan banel gwresogi Haul.  Bydd cyfanswm o 20 tunnell o sglodion coed yn cael eu bwydo i’r bwyler hwn bob blwyddyn.  Daw’r sglodion coed o’r coed ‘glân a swmpus’ a gesglir o’r Bae.  Dim ond un project ydyw gosod y bwyler biomass yma sy’n cyd-fynd ag ymrwymiad y Cyngor i gynaliadwyedd.  O ganlyniad bydd llai o wastraff yn cael ei wared mewn safleoedd tirlenwi ac mae hefyd yn dechnoleg ‘carbon-niwtral’ gan nad ydyw llosgi coed yn cynnyddu gollyngiadau carbon, oherwydd bod cyfanswm y carbon a ollyngir yn hafal â 'r cyfanswm a amsugnir gan y planhigyn wrth iddo dyfu.

 
 
 

Hawlfraint Awdurdod yr Harbwr Caerdydd 2003 | Cedwir Pob Hawlfraint