|
Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn un o’r lleoliadau mwyaf poblogaidd yn
y DU ymhlith ymwelwyr. Mae’r ddinas yn enwog am ei thraddodiadau
diwylliannol, artistig, morwrol a chwaraeon, ac rydym wrth ein boddau
bod mwy a mwy o bobl yn darganfod Caerdydd a glannau’r dŵr.
Mae Bae Caerdydd, y Morglawdd, yr Harbwr Mewnol ac Allanol a rhannau o
Afonydd Taf ac Elái i gyd yn cael eu rheoli’n llwyddiannus gan Awdurdod
Harbwr Caerdydd, sy’n rhan o Gyngor Caerdydd.
Wedi’r Pasg bob blwyddyn, mae gan Awdurdod yr Harbwr galendr cyffrous o
ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar y dŵr a'r tir, a
hynny i ymwelwyr a thrigolion Caerdydd. Gyda chymysgedd amrywiol o
atyniadau, gweithgareddau ac adloniant rhyngwladol, mae Bae Caerdydd yn
lle unigryw iawn. Ewch i gael cipolwg ar y digwyddiadau sydd i ddod neu
ar y newyddion diweddaraf i gael rhagor o fanylion.
Mae’r Bae yn parhau i ddenu defnyddwyr cychod o bob math, gyda dau glwb
hwylio, dau farina a sawl busnes masnachol sy'n ymwneud â'r byd morwrol.
Mae dros 1000 o gychod wedi’u hangori yn y Bae, ac mae’r ffigwr hwn yn
cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. At hynny, mae sawl angorfa ar gael i
gychod ymwelwyr, gan alluogi pobl i brofi atyniadau'r ddinas heb sôn am
y croeso cynnes Cymreig yn ein prifddinas gosmopolitaidd.
Mae’r Bae yn parhau i ffynnu, a llynedd dechreuwyd ar y gwaith o
adeiladu’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Cyn bo hir, bydd y llawr
sglefrio a datblygiadau adwerthu newydd yn cael cwmni pwll nofio o faint
rhyngwladol, cyfleuster canŵio slalom o safon Olympaidd a datblygiadau
mawr eraill ar lannau'r dŵr.
Agorodd Canolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd yn 2005, ac mae’n
cynnig rhaglen lawn o weithgareddau a chyrsiau chwaraeon dŵr gydol y
flwyddyn – yn sicr mae’n werth galw draw am dro. www.cardiffharbour.com/wac
O ystyried y bwytai a'r bariau gwych yn yr Harbwr Mewnol, a'r llwybrau
a'r golygfeydd arbennig ar y Morglawdd, fu erioed gwell amser i ymweld â
Bae Caerdydd.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Fae Caerdydd yn 2007.
Y Cynghorydd Rodney Berman
|