|
Drwy adeiladu
Argae Bae Caerdydd cafwyd llyn
dwr
croyw ag ansawdd
dwr
unigryw a sialens rheoli
dwr croyw
cysylltiedig. Er enghraifft, nid ywr gofyniad Deddf Argae Bae
Caerdydd i gynnal lefelau ocsigen toddedig uwchben 5mg/l drwyr adeg
ym mhob man yn bodolin unlle arall yn y byd. Yn ogystal, credir mai
arolygu cyflwr dros 20,000 o adeiladau rhwng Tachwedd 2001 a Thachwedd
2002 oedd y project mwyaf oi fath.
Gwelir ymrwymiad
Awdurdod Harbwr Caerdydd i reolir amgylchedd yn glir drwy fod y
cyntaf i ennill achrediad ISO14001 (Systemau Rheoli Amgylcheddol) (Mawrth
2004).
Gellir cael gafael
ar wybodaeth am reoli amgylchedd yr Awdurdod Harbwr dan y penawdau
Ansawdd
Dwr,
Dwr Daear, a
Chadwraeth ac Adfywio. Maer olaf yn darparu gwybodaeth am
brojectau ynni adnewyddadwy a strategaeth gynaliadwyedd yr Awdurdod
Harbwr.
Gellir gweld datganiad Polisi Amgylchedd yr Awdurdod Harbwr
yma.
Gellir cael copi o
Grynodeb Datganiad Amgylchedd Argae Bae Caerdydd, a baratowyd cyn
adeiladu'r argae
yma.
|